One Planet
Profwch wefr y goedwig
Y fynedfa i’ch Antur yng Ngogledd Cymru
Os ydych ar droed neu ar ddwy olwyn, mae Oneplanet Adventure yn gyfle delfrydol ar gyfer antur a gweithgaredd yn yr awyr agored.
Boed yn dro cerdded hamddenol i’r teulu ar un o’n llwybrau troed ag arwyddbyst, neu’n reid llawn adrenalin o amgylch rhai o’r llwybrau beiciau mynydd gwneuthuredig gorau yn y DU, gall Oneplanet Adventure ddarparu’r ddihangfa ddelfrydol, gyda’r holl gyfleusterau y buasech yn eu disgwyl mewn canolfan goedwig flaenllaw i ymwelwyr.
Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae Coed Llandegla wedi dod yn adnabyddus fel y lle i ddod am eich chwa o adrenalin beicio mynydd yn y DU. Mae gennym ystod o lwybrau ar gyfer pob gallu, o’r Llwybr Gwyrdd pictiwrésg o gwmpas y gronfa ddŵr i’r llwybr Llinell-B gwibwych a digonedd o weithgareddau eraill. Os ydych yn mwynhau beicio mynydd, mae gennym lwybrau a fydd wrth eich bodd!
Gyda llwybrau troed ag arwyddbyst sy’n addas ar gyfer pob gallu a lefel ffitrwydd sy’n cynnwys y golygfeydd gorau o’r goedwig, mae’n lle anhygoel i gael eich gwynt atoch, ymlacio a mwynhau amser gyda ffrindiau a theulu.
Mae angen neilltuo amser i fwyta a myfyrio ym mhob antur. Mae ein caffi arobryn yn darparu arlwy perffaith o fwyd swmpus, coffi gwych ac awyrgylch croesawgar er mwyn sicrhau fod pob stori yn cael ei hadrodd.
Mae yna rywbeth at ddant pawb yn Oneplanet Adventure.