Anturiaethwr Iau
YN GALW AR HOLL GEISWYR CYFFRO...
Rydym yn chwilio am anturiaethwr iau i ymuno â’r tîm fel profwr ein hanturiaethau dal yn dynn!
Os ydych rhwng 8 a 17 oed, y cyfan rydym eisiau i chi ei wneud yw amlinellu eich diwrnod mwyaf anturus hyd yma a pham dylech gael eich coroni’n ‘Frenin Cyffro’.
Bydd yr enillydd lwcus a 5 aelod o’r teulu/ffrindiau, yn cynnwys oedolyn, yn gyfrifol am brofi’r anturiaethau gorau ledled y rhanbarth dros y 12 mis nesaf a darparu cyngor ynghylch sut i wneud pob atyniad ychydig yn fwy cyffrous!
OES GENNYCH YR HYN SYDD EI ANGEN I GAEL EICH CORONI’N FRENIN CYFFRO CYMRU?
Sut i ymgeisio:
E-bostiwch adventuremap@democracypr.com gyda’r manylion canlynol:
- Enw
- Oedran
- Lleoliad
- Manylion cyswllt
- Iaith gyntaf (Cymraeg / Saesneg)
- Isafswm o 200 gair yn amlinellu eich diwrnod mwyaf anturus hyd yma a pham dylech chi gael eich coroni’n ‘Frenin Cyffro’! NEU fideo yn dangos eich antur fwyaf a pham fyddech chi’n addas i ymgymryd â’r swydd!
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 19 Gorffennaf 2016.
Amodau a Thelerau: https://goo.gl/n03PZx
Pam rydym yn cynnal y gystadleuaeth hon:
Dyma’r her eithaf ar gyfer unigolyn ifanc anturus i gael modd i fyw gyda’i ffrindiau gorau. Gogledd Cymru a’r Du yw’r lleoliad gorau ar gyfer twristiaeth antur, nid oes gan unman olygfeydd dramatig, mynyddoedd, afonydd a llynnoedd fel Cymru i’ch galluogi i #FindYourEpic. Ym Mlwyddyn Antur Croeso Cymru rydym eisiau i’n tîm newydd wneud eich anturiaethau anhygoel chi yn rhai gwell fyth!
Mae’r prosiect AdventureMap wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Ymgysylltu Ranbarthol Croeso Cymru. Ffurfiwyd yr ‘AdventureMap’ ym mis Mehefin 2013 pan ddechreuodd naw o gwmnïau antur weithio gyda’i gilydd i hyrwyddo Gogledd Cymru fel y man gorau ar gyfer twristiaeth antur awyr agored yn y Du.