Digwyddiadau Camu i’r Copa
Y digwyddiadau chwaraeon gorau
Wedi’u lleoli ym mhrydferthwch Gogledd Cymru a thu hwnt, mae ein digwyddiadau yn ysbrydoliaeth i gystadleuwyr a gwylwyr fel ei gilydd.
Yn Camu i’r Copa rydym yn falch dros ben o gyflenwi’r heriau treiathlon, seiclo, rhedeg a nofio gorau yn y DU mewn lleoliadau hardd, eiconig, ac mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar.
Treiathlonau mynydd, arfordirol a dinesig epig. Heriau dygnwch rhedeg sy’n mynd â’ch gwynt. Sbloets o rasys seiclo hirdaith. Mae yna rywbeth at ddant pawb yn Camu i’r Copa.
Ein calendr o ddigwyddiadau 2019:
Hanner Marathon a 10k Ynys Môn Creision Jones
Treiathlon a Deuathlon Harlech
Gor-Farathon, Hanner Marathon a 10k Llwybr SCOTT Eryri